Stryd Fawr, Falkirk | |
Math | tref, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 35,850 |
Gefeilldref/i | Kemper |
Daearyddiaeth | |
Sir | Falkirk |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 11 km² |
Yn ffinio gyda | Stenhousemuir |
Cyfesurynnau | 56.0006°N 3.7844°W |
Cod SYG | S20000468, S19000559 |
Cod OS | NS887801 |
Tref yng nghanolbarth yr Alban yw Falkirk[1] (Gaeleg yr Alban: An Eaglais Bhreac ("Yr Eglwys Frech");[2] Sgoteg: The Fawkirk).[3] Saif i'r gogledd-orllewin o ddinas Caeredin ac i'r gogledd-ddwyrain o Glasgow. Hi yw canolfan weinyddol awdurdod unedol Falkirk. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 34,071. Mae Caerdydd 504.8 km i ffwrdd o Falkirk ac mae Llundain yn 555 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 15.8 km i ffwrdd.
Saif y dref ger cymer Camlas Forth a Clud a'r Union Canal, a thyfodd yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18fed a'r 19g. Yr enw cynharaf a gofnodir arni oedd "Ecclesbrith", Cymbreg neu Hen Gymraeg.
Bu dwy frwydyr yn y cylch: Brwydr Falkirk yn 1298 pan orchfygwyd William Wallace gan fyddin Edward I, brenin Lloegr ac ail Frwydr Falkirk yn 1746, pan gafodd y Jacobitiaid dan Bonnie Prince Charlie fuddigoliaeth dros fyddin y llywodraeth.
Ceir yma dîm pêl-droed adnabyddus, Falkirk F.C.